Mae fy narnau bach o haearn gyredig yn gain ac yn steilus ond o ddeunydd anarferol o grai – haearn wedi’i gymysgu â metelau gwerthfawr ac anwerthfawr. Caiff y darnau bach cerfluniol, dramatig hyn eu gofannu â llaw ac â thân yn yr efail. Rwy’n meddwl bod yr haearn tywyll gyredig yn foeth tawel, yn gynnil ac yn organig, gyda gweadau ac arlliwiau tlws. Rwy’n gwneud celfwaith metel fframiedig cain, sy’n bortreadau myfyriol o natur.
Ar y cyd â’r rhain, rwy’n dylunio cerfluniau pensaernïol mawr, er enghraifft yr addurniadau drws efydd ac alwminiwm yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd a cherflunwaith celfyddyd gyhoeddus ar gyfer mannau trefol a gwarchodfeydd natur, mewn dur, dur gwrthstaen, pren neu lechi.