Buddug Humphries ydw i ac rwy’n gwneud gemwaith a gwrthrychau gan ddefnyddio amrywiaeth o brosesau, o enamel a gofannu metel i decstilau a cherameg, i wneud darnau sydd â naratif. Rwyf wedi arddangos ledled y byd, ac wedi rhannu siop ar Heol Columbia, Llundain ers blynyddoedd. Nawr rwy’n gweithio yng Nghaerdydd, yn fy stiwdio gartref. Cefais fy ngeni yn Wrecsam, Gogledd Cymru, i deulu Cymraeg. Mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ffrydio i mewn i’m gwaith, yn isymwybodol weithiau.