Ar ôl cwblhau fy nghwrs sylfaen yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerfyrddin, astudiais Ddylunio Dodrefn ym Mhrifysgol Loughborough gan raddio yn 2026. Gyda dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad yn pontio coedwigaeth, dylunio a gwneud dodrefn, yn 2024, o’r diwedd, sefydlais fy ngweithdy stiwdio lle rwy’n creu sypiau bach o ddodrefn cyfoes. Caiff fy ngwaith ei lywio gan draddodiadau dylunio brodorol Cymreig ar y cyd â’m diddordeb mewn strwythur, saernïo a ffurfiau llifol sy’n creu ymdeimlad cryf o lif a symudiad. Mae fy narnau’n dra ymarferol ac wedi’u gwneud i’w defnyddio mewn bywyd bob dydd, gyda phresenoldeb cerfluniol cryf yn y mannau lle maent yn preswylio.
Cynyhyrchir y rhan fwyaf o’r cromliniau a’r llinellau llifol yn fy ngwaith trwy’r dechneg o blygu pren â stêm. Cyrchir y pren o goetiroedd lleol a reolir yn gynaliadwy. Mae pob darn o bren yn dweud stori unigryw am y cymoedd, bryniau, afonydd a mynyddoedd sy’n ffurfio fy Nghynefin. Mae’r darnau’n amrywio o ran maint o blatiau caws i fyrddau bwyta a chadeiriau breichiau.