Rwy’n creu dioramau porslen cywrain sy’n pwysleisio ein cysylltiad hynafol, dwfn â natur ac anifeiliaid, gan ddarlunio eu harddwch, unigoliaeth a’u hysbryd mewn ffordd addfwyn, chwareus, ond gan ein gwahodd i’w gweld fel bodau sy’n deilwng o barch a thosturi. Mae fy ngwaith, sydd wedi’i drwytho â rhyfeddod a hud, yn ennyn chwilfrydedd a llawenydd diniwed, gan gynnig man diogel i fyfyrio ar sut gallwn symud ymlaen at fyw bywyd mwy cydgysylltiedig â’r byd o’n cwmpas. Ers i mi raddio o Ysgol Gelf Manceinion yn 2012, mae fy ngwaith wedi datblygu o greu eitemau gwisgo porslen i greu dioramau ceramig tra manwl, ar raddfa fechan, sy’n dangos anifeiliaid hud miniatur sy’n byw o’u mewn.