2 Hungry Bakers

Mae Adamina Turek ac Adrian Austina yn llunio llestri bwrdd â llaw, gan gynhyrchu darnau swyddogaethol a ysbrydolir gan grochenwaith stiwdio clasurol Prydeinig neu Japaneaidd yn eu stiwdio fechan yn Stanmore.
Ategir eu crochenwaith caled gan lwyau, byrddau a chloriau pren turniedig o waith llaw. Maen nhw’n archwilio cydosod pren o wahanol liwiau a phatrymau graen gyda phalet o wydreddau ategol, gan greu cytgord sy’n harddu ffurfiau syml eu llestri bwrdd.
Yn ddiweddar, mae Adamina wedi dechrau llunio darnau mwy fel Jariau Lleuad ac yrnau gyda gwydreddau stormus, gorgyffyrddol, tra bod Adrian yn datblygu gwydreddau lludw o dorion pren o’r broses wneud.