Gweithdy hwyliog, ymarferol i ddysgu sut i ddefnyddio cartonau Tetra Pak wedi’u hailgylchu i greu platiau argraffu intaglio unigryw. Gan ddefnyddio nodwydd ysgythru a chyllell grefft byddwch yn gweithio delwedd ar eich plât, yn ei incio, ac yn argraffu trwy wasg ysgythru.
Byddwn yn gweithio gydag inc du i greu printiau gwreiddiol.
Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr neu unrhyw un sydd eisiau dysgu dull newydd o wneud printiau intaglio.

Tom Frost yn Awen Teifi
Mae’r Gwneyddwr printiau a’r darlunydd Tom Frost wedi dod yn adnabyddus am ei arddull graffig hawdd ei adnabod, gan dynnu ysbrydoliaeth o flychau matsys hen, celf werin, tacsidermi, hen deganau, stampiau a byd natur. Gan weithio o’i stiwdio yn Llanboidy, mae Tom wedi cydweithio â chleientiaid gan gynnwys yr Amgueddfa

