5 Favourites from Town Trail Partners Oriel Myrddin
Written: 24 December 1999
5 Favourites from Craft Festival Town Trail Partners, Oriel Myrddin
Hello!
Hope this finds you very well?
We have been working on a very exciting element of Craft Festival Wales with Catherine Spring and Rachel Vater from Oriel Myrddin. The Craft Festival Town Trail will be hosted in 6 venues around Cardigan featuring 6 emerging makers from Wales. I'll share full details of the Town Trail our next news.
We asked Rachel Vater from Oriel Myrddin to choose her 5 favourites from Craft Festival.
Keep scrolling to discover Rachel's 5 Favourites.
We also have lovely range of workshops to enjoy too. Grab your seat now.
You can meet all of Rachel's favourites at Cardigan Castle from September 6-8 at Craft Festival Wales.
Book Your Tickets Now & Save
Best wishes,
Sarah James MBE
5 Ffefryn gan Bartneriaid Llwybr yr Ŵyl Grefft gan Oriel Myrddin
Helo ‘na!
Gobeithio eich bod chi’n cadw'n dda?
Rydym wedi bod wrthi'n gweithio ar elfen gyffrous iawn o Ŵyl Grefft Cymru gyda Catherine Spring a Rachel Vater o Oriel Myrddin. Cynhelir Llwybr Tref yr Ŵyl Grefft mewn 6 lleoliad o gwmpas Aberteifi sy’n arddangos gwaith 6 gwneuthurwr datblygol o Gymru. Byddaf yn rhannu manylion llawn y Llwybr yn y newyddion nesaf.
Gofynnom i Rachel Vater o Oriel Myrddin ddewis 5 ffefryn o'r Ŵyl Grefft. Daliwch ati i sgrolio i ddarganfod 5 Ffefryn Rachel.
Gallwch gwrdd â holl ffefrynnau Rachel yng Nghastell Aberteifi o 6-8 Medi yng Ngŵyl Grefft Cymru.
Mae gennym amrediad hyfryd o weithdai i'w mwynhau hefyd. Sicrhewch eich sedd nawr.
Bwciwch Eich Tocynnau Nawr ac Arbedwch Arian
Cofion Gorau,
Sarah James MBE
Rosie Farey
I absolutely love Rosie's miniature baskets. I'm fortunate to own a couple of her pieces, and I still marvel at the intricate skill required to create them.
Dw i'n dwli ar fasgedi miniatur Rosie. Rwy'n ddigon ffodus i fod yn berchen ar ddau o'i darnau, ac rwy'n dal i ryfeddu at y sgìl gywrain sydd ynghlwm wrth eu creu.
Addicted to Patterns
I'm currently obsessed with maximalist wallpaper, so this really appeals to me. I haven't seen their work in person before, but I can't wait for their demonstration at the festival. I love the look of their artisan, hand-printed laurel trellis design.
Ar hyn o bryd rwy'n gwirioni ar bapur wal macsimalaidd, felly mae hwn wir yn apelio ataf. Dw i heb weld eu gwaith mewn person o'r blaen, ond alla i ddim aros am eu harddangosiad yn yr ŵyl. Rwy'n dwli ar eu dyluniad delltwaith llawryf crefftwrol, wedi'i brintio â llaw.
Bronwen Gwillim
Bronwen's work is timeless—bold without being overwhelming. I love the marks and textures she incorporates and discovering that it's made from waste plastic found while beachcombing is fantastic!
Mae gwaith Bronwen yn ddigyfnewid – yn feiddgar heb fod yn llethol. Rwy'n dwli ar y marciau a'r gweadau mae'n eu cynnwys ac mae darganfod ei bod yn defnyddio plastig gwastraff hapgael o lan y môr yn anhygoel!
Flora McLachlan
Flora's prints are pure magic, filled with myth and wonder. Each piece transports you to an enchanted world. I am particularly drawn to her lithographs; their looser style enhances the lyrical quality of her work, making them even more captivating.
Mae printiau Flora yn gwbl hudolus, yn llawn myth a rhyfeddod. Mae pob darn yn eich cludo i fyd llawn hud. Rwy'n arbennig o hoff o'i lithograffau: mae eu harddull mwy llaes yn dyrchafu ansawdd delynegol ei gwaith, gan eu gwneud yn fwy hudolus fyth.
Old Stony Hill Ceramics
These are so much fun! First saw Katherine’s work at Studio Cennen in Llandeilo and was immediately taken with how joyful and expressive her pieces were. I especially enjoy her potty-mouth rings and am hoping she'll bring some to Craft Festival Wales.
Mae'r rhain yn gymaint o hwyl! Gwelais waith Katherine gyntaf yn Stiwdio Cennen yn Llandeilo a chefais fy nenu yn syth gan y llawenydd a'r mynegolrwydd yn ei darnau. Dw i'n arbennig o hoff o'i modrwyau ceg fudr ac rwy'n gobeithio y daw hi â rhai i Ŵyl Grefft Cymru.